Mae’r gwerthwr ceir adnabyddus o Gydweli, David Gravell wedi derbyn Medal yr Ymherodraeth Brydeinig am ei waith elusennol ac am ei gyfraniad i’r byd chwaraeon ac addysg.

Derbyniodd e’r fedal gan Arglwydd Raglaw Dyfed, Sara Edwards mewn seremoni arbennig ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin.

Mae wedi’i anrhydeddu am ei wasanaeth ym myd addysg, yn fwyaf arbennig. Mae’n un o ymddiriedolwyr Coleg Llanymddyfri ers blynyddoedd, ac mae’n noddi un person ifanc o Batagonia i gael lle yn y brifysgol.

Mae David Gravell hefyd wedi canolfan ddiwylliannol yn Esquel a gafodd ei hagor yn 2002. Mae gan y ganolfan sgrîn deledu a thaflunydd sy’n galluogi pobol yn y Wladfa i wylio S4C.

Gwaith elusennol

David Gravell oedd yn gyfrifol am sefydlu Clwb Rotari Cefn Sidan yn 1971, ac yn 2o04 fe dderbyniodd wobr ar ôl codi £200,000 at achosion da.

Mae hefyd wedi trefnu digwyddiad a gododd £10,000 tuag at Mencap, ac mae’n gefnogwr brwd o elusen Clefyd y Siwgr (Diabetes UK) er cof am ei gefnder, Ray Gravell. Mae hefyd yn cefnogi Clwb Bowlio Tref Cydweli bob blwyddyn.

Mae’n Llywydd ar Gôr Meibion Llanelli a Chôr Meibion Dyffryn Tywi, mae’n noddwr brwd o ranbarth rygbi’r Sgarlets a Chlwb Rygbi Cydweli ers 30 o flynyddoedd a mwy. Roedd yn flaenllaw wrth sefydlu Cymdeithas Fasnach a Thwristiaeth Cydweli hefyd.

Erbyn hyn, David Gravell yw cadeirydd cwmni ceir y teulu, ac mae’r gwaith o’i redeg bob dydd yn nwylo ei feibion, Ian a Jonathan. Ei dad, Tom Gravell, oedd sylfaenydd y cwmni.