Mae enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2018 wedi canmol athrawon ysgol “gwych” a’i hysbrydolodd hi i ddal ati i ddysgu’r iaith.

Yn hanu o deulu di-Gymraeg mae Rebecca Morgan bellach yn athrawes Cymraeg Ail Iaith yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd.

Ar ôl diwrnod “prysur” ond “anhygoel” o gystadlu ar faes yr eisteddfod am y wobr, mae’r athrawes wedi diolch i’r rhai wnaeth ei dysgu hi.

“Pan o’n i yn yr ysgol uwchradd ges i fy ysbrydoli i gario ymlaen,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yr athrawon yn yr ysgol uwchradd yn wych. Mwynheais i ddysgu Cymraeg lot, wedyn es i ymlaen i ddysgu Cymraeg yn y brifysgol.

“Dw i’n gobeithio cario ‘mlaen, mwynhau’r swydd, ac yn y dyfodol, efallai bod yn bennaeth adran y Gymraeg, a thrio hyfforddi’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd dw i’n gallu yn yr ysgol.”

Mae’n ategu ei bod yn “trio gwneud yn union yr un peth” gyda’r disgyblion mae hi’n eu dysgu, a dangos “bod yr iaith yn fyw a’n bwysig”.