Mae mudiad iaith yn bwriadu creu cymhwyster Cymraeg eu hunain, wrth i Lywodraeth Cymru “din-droi” ar y mater o ddileu’r pwnc, Cymraeg Ail Iaith.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu cymryd y cam hwn ar ôl i Lywodraeth Cymru fethu â chadw at amserlen adolygiad a gafodd ei gyhoeddi ynglŷn â dileu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc erbyn 2018.

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yn 2013, fe nododd yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd bod angen i Lywodraeth Cymru “newid cyfeiriad”, gan ddisodli Cymraeg ail iaith “mewn cyfnod o bum mlynedd”.

Yn ddiweddar hefyd, mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd yna “un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl”, ond ni fydd hwnnw’n cael ei weithredu tan 2025.

Llywodraeth Cymru’n “tin-droi”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “gicio’r mater i’r gwellt hir”.

Mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (dydd Mawrth, Mai 29) felly, maen nhw wedi cychwyn ar y “cam cyntaf” o lunio cymhwyster Cymraeg, a hynny trwy sefydlu gweithgor o arbenigwyr.

“Does dim ymrwymiad clir iawn [gan Lywodraeth Cymru] ynglŷn a phryd fydd y cwricwlwm newydd ar gael, a’n dadl ni y dyle’r cymhwyster newydd fod ar gael o’r flwyddyn nesa’ ymlaen,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, wrth golwg360.

“Byddwn yn sefydlu gweithgor o bobol a fydd yn gynhwysol, byddwn ni’n tynnu allan fframwaith a manyleb, ac yna fe fyddwn ni’n creu cwricwlwm allan o’r ddau beth yna.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ychwanegu eu bod nhw’n bwriadu lansio’r cymhwyster fis Medi eleni.