Mae tri o bobol wedi’u harestio wedi i fws mini gael ei ddwyn o ymyl Castell Caernarfon nos Lun, gwyl y banc.

Fe gafodd plismyn eu galw i Allt y Castell yn nhre’r Cofis toc cyn 7yh, yn dilyn adroddiadau fod bws mini Ford Tansit wedi’i gymryd heb ganiatad.

Daethpwyd o hyd i’r cerbyd yn ddiweddarach y tu ôl i dafarn Wetherspoon yn ardal Tan-y-bont.

Fe gafodd dau o bobol eu cymryd i’r ddalfa yn syth bin, ond fe ddihangodd trydydd i fyny i doeau tai yn Ffordd Bangor, lle y dechreuodd dynnu llechi rhydd a’u taflu at yr heddlu.

Ond, tua 8.30yh, fe ddaeth y dyn 24 o Dalysarn i lawr o’i wirfodd ac fe gafodd ei arestio. Mae’r ddau arall – dyn 29 oed o ardal Treborth ger Bangor a dynes 20 oed o Langefni – yn parhau i gael eu holi ynglyn â lladradd cerbyd.