Mae peirannau arian diffygiol, wedi achosi tipyn o helynt ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dim ond dau beiriant sydd ar y maes – un yn y Ganolfan Groeso, ac un yng Nghaffi Mistar Urdd.

Ond mae’n debyg bod y ddau beiriant wedi methu yn barod yr wythnos hon, a ddydd Mawrth (Mai 29), dim ond peiriant Caffi Mistar Urdd oedd yn gweithio.

Gan fod angen arian parod i dalu am nwyddau sawl stondin, mae Eisteddfodwyr wedi bod yn heidio i’r un peiriant ‘byw’ ac yn ciwio yno.

Rhaid talu £2.50 er mwyn defnyddio’r peiriant yng Nghaffi Mistar Urdd, ac mae’r dewisiadau ar y sgrin yn Saesneg – gan eithrio neges groesawu ddwyieithog.

Mae Eisteddfod eleni wedi’i leoli ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd – yn ystod y sioe honno mae mwy o beiriannau ar gael i’w defnyddio.