Mae angen swyddi a datblygiad economaidd er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i dref Tregaron, yn ôl cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Ceredigion.

Mae Tregaron, fel amryw o drefi eraill Ceredigion a gorllewin Cymru, yn wynebu amryw o heriau, ac mae’r cyfarfod yn Nhregaron yn dilyn un tebyg a gynhaliwyd yn Llandysul y llynedd.

Dan drafodaeth yn y Neuadd Goffa roedd amryw o faterion, gan gynnwys o rwystredigaeth o golli gwasanaethau pwysig fel y pwll nofio a banciau; yr angen am fyw o swyddi; a datblygiad economaidd er mwyn denu’r genhedlaeth iau yno i fyw.

Cyfeiriwyd hefyd at yr angen am fand llydan a chysylltiadau digidol, a datblygu’r diwydiant twristiaeth a hyrwyddo delwedd dref a’r amgylchedd.

“Fel amryw o drefi marchnad ar draws Ceredigion, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai caled i Dregaron, yn enwedig gyda’r golled o amryw o wasanaethau pwysig,” meddai Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, yn dilyn y cyfarfod.

“Fodd bynnag, serch y fath broblemau, does dim amau bod gan Dregaron y potensial a brwdfrydedd i lwyddo – mae llwyddiant diweddar Tregaroc yn profi hyn.

“Rwy’n hyderus, gydag ychydig bach o waith caled, medrwn elwa ar hanes a delwedd gyfoethog Tregaron a sicrhau dyfodol llewyrchus i’r dref a’r ardal.”