Mae nifer y bobol sy’n gwrando ar Radio Cymru wedi aros yn gyson, yn ôl ystadegau diweddara’r diwydiant darlledu.

Fe gyhoeddwyd ffigurau RAJAR yr wythnos ddiwethaf, ac maen nhw’n nodi fod 121,000 o bobol yn gwrando ar yr orsaf Gymraeg bob wythnos. Mae hynny’n cynrychioli 5% o’r gynylleidfa bosib.

Roedd y ffigurau ar gyfer y chwarter blaenorol (diwedd 20170 yn 126,000; y chwarter cyn hwnnw yn 124,000; a’r chwarter hyd at Awst 2017 yn 129,000.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn cynnwys y nifer sy’n gwrando ar Radio Cymru 2, y gwasanaeth newydd a gafodd ei lansio ddiwedd Ionawr.