Heddiw, mae disgwyl i ymgyrchwyr gwrth-niwclear o Gymru ymweld â phencadlys cwmni Hitachi yn Japan, i gyflwyno llythyr yn gofyn iddyn nhw beidio â buddsoddi mewn gorsafoedd niwclear ledled y byd.

Mae sylw mawr gan y wasg a’r cyfryngau yn Japan i’r cydymgyrchu rhwng Cyfeillion y Ddaear Japan a PAWB (Pobol Atal Wylfa B).

Mae ymweliad gan dri aelod o PAWB yn digwydd ar adeg pan y mae ariannu cynlluniau Hitachi ar gyfer yr Wylfa ym Môn yn y fantol.

Y llythyr yn llawn

Rydym yn fudiad o Gymru a Sefydliad Anllywodraethol o Japan sy’n gwrthwynebu allforio technoleg niwclear Hitachi i Ynys Môn, Cymru.

Mae Ynys Môn yn lle hardd iawn gyda channoedd o flynyddoedd o hanes amaethyddol, arfordir prydferth a byd natur dilychwin. Mae’r safle arfaethedig ar gyfer yr orsaf niwclear newydd er enghraifft, yn gartref i fôr-wenoliaid yr Arctig. Peidiwch â dinistrio ein gwlad a’n cynefin hardd.

Mae’r galw yn y Deyrnas Unedig am drydan yn gostwng. Mae pris yr ynni niwclear yn achos adeiladu Hinkley C ddwy waith yn ddrutach na phris trydan ar y farchnad ar hyn o bryd. Nid oes angen y prosiect hwn o gwbwl.

Ar hyn o bryd, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gorfodi gormes llymder ar y bobol, ac mae anghenion sylfaenol fel lles, addysg a gofal iechyd yn cael eu tangyllido. Nid oes ateb wedi cael ei ddarganfod eto i storio gwastraff ymbelydrol yn ddiogel.

Bydd gwastraff fyddai’n cael ei gynhyrchu gan Wylfa Newydd yn cyfateb i 80% o wastraff hanesyddol y Deyrnas Unedig wedi ei storio yn Sellafield a gosod y baich a’r risgiau o ddelio gyda hyn ar genedlaethau’r dyfodol.

Deallwn fod Hitachi yn gofyn i lywodraethau Japan a’r Deyrnas Unedig am ryw ffurf o gefnogaeth ariannol. Mae hynny’n awgrymu eich bod chi eich hunain yn cydnabod bod y prosiect yn anymarferol yn economaidd. Pe byddai’r prosiect yn methu, byddai’n rhaid i ddinasyddion y ddwy wladwriaeth ysgwyddo’r gost. Dylech ymddwyn yn gyfrifol a dylech atal y prosiect.

Yn fwy na dim, gyda Japan wedi profi trychineb Fukushima Daiichi TEPCO a chyda cynifer o bobol yn dal i ddioddef o’i herwydd, mae’n anfoesol i allforio’r dechnoleg hen ffasiwn hon i wledydd eraill.

Nid yw’n rhy hwyr i ddiddymu’r prosiect. Apeliwn yn ddiffuant a chryf fod Hitachi yn diddymu’r prosiect.