Mae priffordd yr A470 wedi’i chau i’r ddau gyfeiriad, wedi damwain ddifrifol rhwng Betws-y-coed a Blaenau Ffestiniog.

Mae’r gwasanaethau brys wedi’u galw i safle’r ddamwain sy’n cael ei disgrifio gan Heddlu Gogledd Cymru fel un “ddifrifol”, tua 2.30yp.

Y gred ydi fod beic modur a char wedi mynd ben-ben â’i gilydd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i yrwyr osgoi’r ardal am gyfnod, os y medran nhw.