Mae Llywydd y Dydd, Eisteddfod yr Urdd 2018, wedi galw ar y sefydliad i roi “mwy o bwyslais” ar yr amgylchedd.

Er nad oedd yn bresennol ar y safle ddydd Llun (Mai 28), llwyddodd y naturiaethwr, Iolo Williams, a chyfleu ei neges i’r brifwyl ar ffurf fideo (gallwch ei weld isod).

“Un peth liciwn ni weld yr Urdd yn rhoi mwy o bwyslais arno, falle, ydy’r amgylchedd – a phwysigrwydd yr amgylchedd,” meddai. “Dim i fi, ond i fy mhlant i, ac i’w plant nhw.

“Ac mae’r cyfle yna gan yr Urdd i fachu’r plant pan maen nhw’n ifanc. A byddwn i’n licio iddyn nhw roi mwy o bwyslais ar yr amgylchedd.”

Mae’r naturiaethwr yn hanu o ogledd Sir Benfro, ychydig filltiroedd o safle’r Eisteddfod eleni – maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

“Llongyfarch”

Yn ogystal â’i alwad am newid, mae Iolo Williams yn canmol yr Urdd am “newid ac addasu” ac am eu parodrwydd i wneud hynny.

“I ddechra,u dw i eisiau llongyfarch yr Urdd,” meddai. “Mae wedi newid cymaint ers pan oeddwn i’n fachgen bach.

“Mae wedi gorfod newid ac addasu ac maen nhw wedi gwneud hynny yn llwyddiannus dros ben. Cyfleoedd i blant Cymru – nid yn unig yr Eisteddfod i ganu ac i adrodd – ond a chrefftau a chwaraeon.”