Mi fydd protest sy’n cael ei chynnal heddiw (dydd Llun, Mai 28) yn erbyn rhoi enw newydd i ail bont Hafren, yn “gyfle i’r Cymry uno”, yn ôl ymgyrchydd.

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gan y grŵp ymgyrchu, Llysgenhadaeth Owain Glyndŵr, ac fe fydd yn cael ei gynnal y tu allan i Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd.

Y bwriad yw ceisio darbwyllo Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i ailystyried enwi’r ail bont dros afon Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’.

Fe gyhoeddodd Alun Cairns dros fis yn ôl y byddai ailenwi’r bont ar ôl y Tywysog Charles yn “deyrnged addas” iddo, ac mae wedi dod i’r amlwg ers hynny bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi “croesawu’r syniad”.

Mae bron i 40,000 wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu’r ailenwi, ac mae trefnwyr y brotest ddydd Llun yn gobeithio cadw’r “momentwm” i fynd.

“Dim mwy o sarhad”

“Os gwnawn ni dderbyn hyn, bydd yn dangos ein bod ni’n barod i dderbyn unrhyw beth mae’r Llywodraeth Brydeinig a’r teulu brenhinol yn mynd i wneud â ni fel cenedl,” meddai Siân Ifan o Lysgenhadaeth Owain Glyndŵr wrth golwg360.

“Rydan ni wedi trefnu hwn gan obeithio y bydd yna undod Cymreig, a bydd yna gymaint o bobol yn dod yna i ddangos ei gwrthwynebiad i beth sy’n mynd i ddigwydd.

“Mae’n sicr yn mynd i ddigwydd os na wnawn ni ddangos gwrthwynebiad, a dw i’n gobeithio y bydd y gwrthwynebiad yn ddigon cryf fel y bydd o’n rhwystro Alun Cairns a’r teulu brenhinol a Carwyn Jones rhag mynd ymlaen â’r cynllun yma.”