Mae dyn oedrannus mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.
Tarodd car Suzuki Grand Vitara a Nissan Juke yn erbyn ei gilydd ar ffordd B4302 rhwng Llandeilo a Thalyllychau am oddeutu 9 o’r gloch fore heddiw.
Cafodd gyrrwr oedrannus y Suzuki Grand Vitara anafiadau difrifol, ac fe gafodd ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion.