Mae unedau genedigaeth a man anafiadau Ysbyty Coffa Fictoria yn Y Trallwng wedi’u cau yn sgil llifogydd.
Fe fu glaw trwm yn yr ardal dros nos, ac mae cleifion bygwreigaeth yn cael eu cyfeirio i’r Drenewydd, ryw 15 milltir i ffwrdd.
Mae rhybudd i yrwyr gadw draw o’r dref am y tro.
Fe fu sawl adroddiad am lifogydd yn yr ardal.