Mae cangen Merthyr Tudful o fudiad Yes Cymru yn cael ei lansio heddiw gyda chyfres o ddigwyddiadau Cymraeg a Saesneg yn Theatr Soar y dref.

Yn ystod y bore, fe fu’r Beirdd Cochion yn perfformio a chafodd ffilm Geraint Rhys o Abertawe, ‘Catalonia’ ei dangos ar ôl i’r cerddor fod yn y wlad yn dilyn hynt a helynt yr ymgyrch tros annibyniaeth.

Ac mae’r economegydd Dr John Ball wedi rhoi cyflwyniad ar economi Cymru annibynnol.

Mae’r sesiynau wedi’u trefnu i gyd-daro â gŵyl Merthyr Rising, sy’n cael ei chynnal yn y dref dros y penwythnos.

Sesiynau’r prynhawn

Yn ystod y prynhawn, fe fydd rhagor o sesiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cynnal.

Fe fydd y Prifardd Emyr Lewis yn rhoi cyflwyniad ar Brexit a’r Gymraeg am 1.45pm, a bydd sesiwn Labour For Indy Wales am 3 o’r gloch.

Bydd Dr. Dan Evans o orsaf radio Desolation Radio yn rhoi cyflwyniad am 4.15pm, cyn i’r digwyddiadau ddod i ben gyda sesiwn gomedi Stand Up For Wales Yes Cymru Abertawe am 5.30pm yn serennu Lorna Corner, Steffan Evans, Eleri Morgan a Drew Taylor.