Mae un o drigolion Abertawe’n dweud bod graffiti Cymraeg ar wal yn y ddinas wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb.

Fel rhan o brosiect ‘Celf Ar Draws y Ddinas’, cafodd y slogan ei greu gan Jeremy Deller a’i arddangos ar hysbysfwrdd ger Canolfan Siopa Dewi Sant.

Ond roedd y slogan, ‘More Poetry is Needed’, yn un uniaith Saesneg, ac mae graffiti Cymraeg ar yr hysbysfwrdd yn datgan ‘Mae Angen Mwy o Gymraeg’.

‘Dadleuol’

Wrth gyhoeddi llun o’r hysbysfwrdd ar ei dudalen Facebook, dywedodd Geraint James: “Graffiti wedi ymddangos yr wythnos hon.

“Gwrthdaro dau ddiwylliant yn Abertawe.

“Dadleuol basech chi’n meddwl ond, wrth i mi dynnu’r llun daeth tri pherson gwahanol atof fi a gofyn am gyfieithiad.

“Roedd yn amlwg eu bod yn cefnogi’r graffiti.”

Ennyn diddordeb

Mae’r hysbysfwrdd wedi ennyn rhywfaint o ymateb ar wefan gymdeithasol Twitter hefyd, wrth i’r ddinas baratoi i groesawu digwyddiad Radio 1, The Biggest Weekend i’r ddinas dros y penwythnos.

Fel rhan o’r digwyddiad, fe fydd bandiau Cymraeg ar un o’r llwyfannau ymylol, BBC Music Introducing. Yn chwarae ar y llwyfan fydd Band Pres Llareggub, Mellt, Chroma a Serol Serol.

Ac mae un o’r artistiaid Saesneg ei iaith, Boy Azooga yn annog y gynulleidfa i “floeddio ar Taylor Swift yn Gymraeg”, gan ddweud mai “Rwy’n dy garu di” yw “I love you” yn Gymraeg.