Mae un o’r ymgeiswyr posib i ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru wedi dweud ei fod am “magu mwy o sgiliau Cymraeg”.

Ond doedd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, ddim am ddweud y byddai’n dysgu mwy o Gymraeg pe bai’n rhoi ei enw yn swyddogol yn y ras i olynu Carwyn Jones.

Hyd yn hyn pedwar Aelod Cynulliad sydd wedi datgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus iddo, ond mae angen pum enw arno os yw am herio Mark Drakeford am yr arweinyddiaeth.

“Amlwg yn ffactor”

Wrth gael ei holi gan golwg360, roedd Vaughan Gething yn cydnabod y gallai’r ffaith nad yw’n siarad Cymraeg fod yn anfantais iddo, gan fod pob un o brif weinidogion blaenorol Cymru wedi gallu’r iaith.

“I rai pobol, bydd hynny yn amlwg yn ffactor, o fy safbwynt i, dw i’n defnyddio ychydig o Gymraeg, dw i’n defnyddio mwy o Gymraeg mewn areithiau, dw i’n cydnabod bod e’n rhywbeth teg i ofyn,” meddai.

“Dw i’n gobeithio y bydda’ i’n magu mwy o sgiliau Cymraeg, ddim yn unig dros gyfnod y gystadleuaeth, ond dros y blynyddoedd nesaf, waeth beth fydd yn digwydd yn y gystadleuaeth.

“Mae fy ngwraig a fi yn byw yng Nghymru, rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o Gymru, mae fy mab yn mynd i Gylch Ti a Fi, mae e’n canu llawer o hwiangerddi Cymraeg.

“Felly mae’n rhan o’i fywyd e, ynghyd â bywyd cyhoeddus, dw i am fod yn rhan o hynny hefyd.

“Hoffwn i fagu mwy o sgiliau Cymraeg, a bydden i am wneud hynny doed a ddelo, achos ar ben fy mywyd cyhoeddus, mae e i fod yn rhan o fywyd fy mab a’i ddyfodol e hefyd.”