Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai’r cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens, fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Bydd yn annerch cynulleidfa’r Pafiliwn o’r llwyfan yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ym Mae Caerdydd o 3-11 Awst.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, ymunodd Huw Stephens â Radio 1 yn 17 oed, ac erbyn hyn mae’n un o brif gyflwynwyr Radio 1 ac yn cyflwyno rhaglen wythnosol boblogaidd ar Radio Cymru, Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2 ac i’w weld ar y teledu yma yng Nghymru, ac o Glastonbury ar BBC2. Mae hefyd yn gyflwynydd ar y World Service.

Huw Stephens y steddfodwr brwd

Mae Huw Stephens bod i bob Eisteddfod Genedlaethol blwyddyn ers iddo gael ei eni, ac mae’n perfformio ym Maes B yn flynyddol. Eleni, bydd yn cyflwyno Gig y Pafiliwn am y trydydd tro.

“Braint fawr yw bod yn Llywydd yr Ŵyl eleni,” meddai.

“Caerdydd yw fy nghartref a fy nghanolbwynt, ac mae diwylliant Cymraeg yn rhan bwysig iawn o fy mywyd. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at wythnos arbennig yn ein prifddinas.”