Mae pedwar Aelod Cynulliad Llafur wedi datgan eu bod am weld Vaughan Gething yn olynu Carwyn Jones yn Brif Weinidog, a’n arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Mae Carwyn Jones eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu yn yr hydref, a bellach mae cystadleuaeth ar droed i benodi olynydd iddo.

Hyd yma, dim ond un Aelod Cynulliad Llafur sydd wedi datgan y bydd yn ymgeisio am y rôl, sef yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

Ond, mae sïon ar led bod yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn llygadu’r swydd, a bellach mae Hefin David, Lynne Neagle, Joyce Watson a Vikki Howells wedi datgan eu cefnogaeth iddo.

Llythyr

Mewn llythyr agored a gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener (Mai 25), mae’r Aelodau Cynulliad yn galw am “arweinydd sy’n barod i adnewyddu’r Blaid Lafur yng Nghymru.”

“O’r holl ddarpar ymgeiswyr, yn ein barn ni, mae yna un ceffyl blaen,” meddai’r Acau yn y llythyr. “Felly, rydym yn cefnogi Vaughan Gething i fod yn arweinydd ar Lafur Cymru ac yn Brif Weinidog.”

Mae angen cefnogaeth pum Aelod Cynulliad arall er mwyn medru sefyll yn ymgeisydd.