Mi fydd Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ei hun, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Yn 2010, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Newid Hinsawdd, a oedd yn nodi targed o 3% y flwyddyn ar gyfer lleihau arylliadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, gyda gostyngiad o 40% erbyn 2020 wedyn.

Ond yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrthyn nhw na fyddan nhw’n gallu cyrraedd y targedau hyn, a hynny oherwydd tri rheswm penodol sef:

  • Cynllun Masnachol Allyriadau’r Undeb Ewropeaidd
  • gwneuthuriad economaidd Cymru;
  • patrymau tywydd.

Ers hynny, mae’r Pwyllgor ar newid hinsawdd yn San Steffan wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru osod targedau newydd, is ar gyfer y tymor byr.

Ond mae’r pwyllgor yn y Cynulliad wedi ymateb trwy ddweud bod hyn yn “ofid” iddyn nhw, ond ei fod ar yr un pryd yn “gam angenrheidiol” o ystyried y diffyg cynnydd i gyrraedd y targedau.

Siom

Yn ôl Mike Hedges, cadeirydd y pwyllgor, roedd yn credu bod targedau gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn rhai “uchelgeisiol, ond yn gyraeddadwy”.

“Mae’r ffaith y bydd y Llywodraeth yn methu â chyrraedd y targedau hyn o dipyn yn siomedig iawn, ac nid yw’r pwyllgor wedi ei argyhoeddi gan rywfaint o’r rhesymeg sy’n sail i’r methiant,” meddai.

“Credwn fod angen dull gweithredu llawer mwy cydlynol ar draws adrannau’r llywodraeth os yw Cymru i ddod yn genedl fwy gwyrdd a mwy cynaliadwy.

“Ond yn y tymor byr, rydym yn derbyn barn Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y Deyrnas Unedig y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei thargedau a’u gostwng.”