Mae heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ynglŷn â Mathew Roberts o Aberystwyth.

Fe gafodd y dyn 43 oed ei weld ddiwetha’ yn nhre’ Aberaeron ddydd Mawrth yr wythnos hon (Mai 22).

Yn ôl yr heddlu, mae Mathew Roberts tua chwe throedfedd a thair modfedd o dalda, gyda gwallt golau at ei ysgwyddau.

Mae hefyd yn gwisgo naill ai côt wen, côt felen neu un goch, ynghyd â het a jîns.

Mae ganddo gysylltiadau ag ardaloedd Aberdaugleddau, Abergwaun, Aberteifi ac Aberaeron, ac mae lle i gredu ei fod yn teithio ar droed, gyda bag ar ei gefn.