Mae yna “ddiffyg trafodaeth” ar faterion hoyw wedi bod ymhlith y Cymry Cymraeg yn y gorffennol, yn ôl un ymgyrchydd ifanc.

Mae Iestyn Wyn yn gweithio i elusen Stonewall, mudiad sy’n ymgyrchu dros faterion pobol hoyw, lesbiaid, pobol ddeurywiol a thrawsrywiol [LHDT neu LGBT yn Saesneg], yn dweud bod angen i’r gymuned hoyw fod yn weledol o fewn y diwylliant Cymraeg.

Ac fel dyn hoyw ei hun, yn hanu o Fôn ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae’n dweud ei fod wedi cael problemau yn derbyn ei rywioldeb, am fod bod yn hoyw yn cael ei ystyried yn rhywbeth negyddol.

Mae’n siarad â golwg360 wrth lansio cynllun newydd, ‘Mas ar y Maes’, sef rhaglen o ddigwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i dynnu sylw a cynyddu dealltwriaeth o brofiad pobol hoyw drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae troseddau casineb yn erbyn pobol LHDT ar ei fyny, ac ar yr uchaf ar gofnod,” meddai, “ac mae yna sawl rheswm am hynny.

“A phan ydan ni’n meddwl am brofiad pobol ifanc mewn ysgolion, mae 90% o’n pobol LHDT ni yn parhau i glywed y gair ‘hoyw’” mewn cyd-destun negyddol, felly, ‘that’s so gay’… ei ddefnyddio fo fel rhywbeth sarhaus.

“Gallwn ni ddweud ein bod ni wedi symud ymlaen yn ddeddfwriaethol o ran hawliau pobol LGBT, ond mae yna dal ffordd i fynd.”

Y ddinas v cefn gwlad

“Mae’r cwestiwn o ran yr elfen ddinesig a chefn gwlad yn un anodd i raddau, does yna ddim ystadegau cadarn, caled yn cyfleu’r profiad yna o ran agweddau cefn gwlad a dinesig,” meddai Iestyn Wyn wedyn.

“Ond un peth alla’ i ddweud yn sicr, yw bod yna ddiffyg gwelededd o faterion LGBT – a hynny fwyfwy yng nghefn gwlad.

“Yn amlwg mae yna ddiffyg poblogaeth neu wahaniaeth mewn poblogaeth yn rhan o’r rheswm yna, pan rydyn ni’n edrych ar gefn gwlad Cymru pan oeddwn i’n tyfu fyny, roedd gennyf i deulu cefnogol iawn, roedd gen i gymuned gefnogol iawn yn athrawon, ffrindiau ac yn y blaen.

“Fe wnes i wynebu heriau, ges i fy mwlio er enghraifft, fel lot o bobol eraill am resymau gwahanol. Un neu ddau o bobol hoyw roeddwn i’n nabod… roedden nhw’n cael eu cyfeirio at eu henw cyntaf a wedyn yn sbesiffig eu rhywioldeb nhw, neu air sarhaus i gyd-fynd â’u henw nhw.

“Pan ydach chi’n tyfu fyny a gweld pobol ddim yn parchu pobol am bwy ydyn nhw… yn bendant doeddwn i ddim eisiau bod yn hoyw, oherwydd roeddwn i’n meddwl bod o’n rhywbeth ofnadwy. Dyna pam mae cael modelau rôl amlwg a chael y materion yma allan yn weledol yn bwysig.”