Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi na fydd cyflwynydd prif raglen y prynhawn ar Radio Cymru wrth ei waith weddill yr wythnos hon, wedi iddo gael ei ruthro i’r ysbyty fore heddiw (dydd Mercher, Mai 23) i dynnu pendics.

Yn ôl y BBC, fe gafodd Ifan Jones Evans, 33, ei gludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ar gyfer llawdriniaeth frys.

Mae cyflwynydd rhaglen geisiadau nos Sadwrn, Marc Griffiths, yn cadw ei sedd yn gynnes ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon, cyn y bydd Tudur Owen yn llenwi ei slot arferol rhwng 2 a 5 o’r gloch ddydd Gwener.

Dim ond ers rhai wythnosau y mae Ifan Jones Evans wedi bod yn cyflwyno slot y prynhawn, gan mai ef gymrodd drosodd pan adawodd Tommo yr orsaf ym mis Ebrill.