Keolis/Amey fydd yn rhedeg gwasanaeth trenau Cymru am y pymtheg mlynedd nesaf.

Mae’r fenter ar y cyd rhwng y cwmnïau Ffrengig a Sbaenaidd wedi ennill y cytundeb ar draul y cwmni MTR o Hong Kong.

Fe dynnodd Arriva yn ôl y llynedd ac fe gafodd y ceisiadau newydd eu derbyn ym mis Rhagfyr.

“Cafodd y ddau gais oedd yn weddill eu gwerthuso, gyda phob cais yn cael ei asesu o ran ei ansawdd, ei wytnwch a’i allu i gyflwyno ar sail blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u hamlinellu yn y ‘Gwasanaethau Rheilffordd ar gyfer y Dyfodol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Drwy gydol y broses gaffael, rydym wedi blaenoriaethu buddsoddiad yn ansawdd trenau, gorsafoedd a gwasanaethau ar gyfer Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru.”