Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am wneud “penderfyniadau anesboniadwy” yn â chynllun Cylchffordd Cymru.

Fe wariodd Llywodraeth Cymru dros £9m ar y cynllun, cyn iddo fynd i’r gwellt ym mis Mehefin y llynedd – roedd galw arnyn nhw i warantu benthyciadau gwerth £210m.

Nod arweinwyr y prosiect, Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, oedd adeiladu trac rasio ceir ym Mlaenau Gwent, gyda Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo hanner y gost.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi tynnu sylw at “nifer o gamgymeriadau” ar ran y Llywodraeth, a’u beirniadu mewn adroddiad newydd.

Y pwyllgor

Un achos penodol a wnaeth gorddi’r pwyllgor cryn dipyn, oedd y penderfyniad i brynu’r cwmni FTR Moto – a hynny gydag arian y gwnaethon nhw dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Mi wadodd y Llywodraeth ei bod wedi cyfrannu at y pryniant, er eu bod mewn gwirionedd wedi cytuno iddo, a chafodd y mater ei gadw’n ddistaw.

Caeodd cwmni FTR Motors – cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham – yn ddiweddarach, a hwythau heb adleoli i Gymru erioed.

“Anesboniadwy”

“Gwnaeth Llywodraeth Cymru rai penderfyniadau anesboniadwy wrth ddarparu cyllid cychwynnol ar gyfer y prosiect hwn, meddai Nick Ramsay, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

“… Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dangos rheolaeth effeithiol dros arian cyhoeddus Cymru ac yn cynyddu i’r eithaf y cyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru 

“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gylchffordd Cymru a byddwn yn mynd ati yn awr i ystyried y manylion cyn ymateb yn ffurfiol iddo,” meddai llefarydd.
Rydym eisoes wedi cydnabod bod gwersi i’w dysgu o ran sut yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â’r prosiect hwn ac rydym wedi sefydlu prosesau newydd i fynd i’r afael â hyn.”