Mae grŵp ymgyrchu newydd oddi fewn i Blaid Cymru wedi cael ei lansio gan Aelod Cynulliad sydd wedi’i wahardd o’r blaid.

‘Propel Cymru’ yw enw’r grŵp a gafodd ei lansio neithiwr (nos Lun, Mai 21) gan Neil McEvoy, ac mae rhyddid i aelodau Plaid Cymru, neu unigolion nad ydyn nhw’n aelodau o bleidiau eraill, i ymuno, meddai. 

Wrth lansio’r mudiad yng Nghaerdydd, dywedodd Neil McEvoy  bod “chwant am newid” a bod y grŵp am “newid Cymru”.

Cymru unedig

“Rydym wedi gweithio’n rhy galed i weld gwleidyddiaeth Cymru a’r Cynulliad yn methu,” meddai Neil McEvoy wrth annerch torf o tua cant a hanner o bobol yn Neuadd Fawr, Gwesty’r Gyfnewidfa Lo.

“Rydyn ni am greu Cymru unedig, lewyrchus, lle mae’n hawdd gwneud busnes, a lle mae yna gyfleoedd i’n plant. Rydyn ni angen rhoi cyfleoedd i’n plant.”

Ymhlith y siaradwyr roedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Heledd Gwyndaf.

Gwahardd

Cafodd Neil McEvoy ei wahardd o Blaid Cymru ym mis Mawrth, am “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid”, ond bydd modd iddo apelio’n erbyn y penderfyniad ddechrau’r flwyddyn nesa’.

Mae’r gwleidydd eisoes wedi beirniadu cyfeiriad y blaid, ac wedi eu cyhuddo o ymddwyn fel grŵp pwyso i’r blaid Lafur. Dyw Plaid Cymru yn ganolog ddim wedi cefnogi sefydlu’r grŵp newydd, ac maen nhw’n gwrthod y disgrifiad ohono fel grwp ymgyrchu ‘oddi fewn’ i Blaid Cymru.