Fe fydd aelod o’r band Super Furry Animal, yn cyflwyno ei albwm unigol newydd, ynghyd ag un cilo o fwd ‘ymbelydrol’, i bob Aelod Cynulliad a fydd yn rhan o ddadl yn y Senedd ynglŷn â dympio gwastraff niwclear ym Mae Morgannwg.

Yfory (dydd Mercher, Mai 23), fe fydd Cian Ciarán yn cyflwyno’r albwm, 20 Miliservierts Per Year, wedi’i bacio mewn bag o fwd ‘ymbelydrol’ i bob un o wleidyddion y Bae.

Mae’r cerddor a’r ymgyrchydd gwrth-nwiclear yn cyflawni’r weithred er mwyn gwrthwynebu cynllun i symud tunelli o fwd sydd o gwmpas hen orsaf niwclear Hinkley yng Ngwlad yr Haf a’i roi yn y môr ger Bro Morgannwg, 19 milltir o Gaerdydd.

Mae teitl yr albwm yn gyfeiriad at faint o ymbelydredd y mae dinasyddion Fukushima yn Japan yn gorfod delio ag o bob blwyddyn, ac roedd yn deitl ar arddangosfa o luniau gan yr artist, Lis Fields, o’r orsaf niwclear yn dilyn y tanchwa yn 2011.

“Amharch i bobol Cymru”

Yn ôl Cian Ciarán, mae deiseb ag arni 7,000 o enwau o Gymru a 150,000 ledled y Deyrnas Unedig, yn gwrthwynebu’r cynlluniau ynghylch gwastraff niwclear Hinkley, sy’n “amarch” i bobol Cymru, meddai.

“Mae hyn yn benderfyniad dadlennol yn economaidd ac yn foesol yn barod, meddai.

“Mae Fukushima yn cynnig rhybudd i’r bobol hynny sy’n gwneud penderfyniadau, o ran beth sy’n digwydd pan maen nhw’n gwrando ar y cwmnïau mawr ac nid ar y bobol, gan roi elw cyn y bobol ac elw cyn y blaned.

“Mae ganddon ni lais, ac mae angen i ni weiddi’n uwch i naill ai newid meddyliau, neu gael gwared ar y gwneuthurwyr polisi.”

Yr albwm 

Gallwch wylio a gwando ar albwm Cian Ciaran ar ei hyd yn fan hyn: