Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad ar ôl i werth £15,000 o emwaith gael ei ddwyn o dy yn y Drenewydd.

Yn ôl yr heddlu, mi gafodd pum breichled aur, gwerthu rhwng £2,500 a £4,000 yr un, ac un pâr o glustlysau deiamwnt, gwerth £2,000 eu dwyn rhwng tua 7.15yb a 7:30yh ddydd Gwener, Mai 18.

Maen nhw’n dweud ei bod yn bosib bod y gemwaith wedi’u gwerthu naill ai yn ardaloedd Amwythig neu Wrecsam.

Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.