Trosglwyddo eitemau o Gapel Celyn i Amgueddfa Werin Cymru

Diweddarwyd  
Nia Erain Griffith a Gwyn Roberts yn trosglwyddo'r eitemau

Nia Erain Griffith a Gwyn Roberts yn trosglwyddo’r eitemau Llun trwy law Amgueddfa Werin Cymru

Llun trwy law Amgueddfa Werin Cymru

Mae eitemau o bentref Capel Celyn wedi cael eu rhoi yng ngofal Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan heddiw (dydd Llun, Mai 21).

Mae’r eitemau, sy’n cynnwys cloch, allwedd a lamp yr ysgol, ynghyd â dwy lamp o’r capel, wedi cael eu rhoi i’r casgliad cenedlaethol gan Gwyn Roberts a’i ferched, Nia Erain Griffith a Lois Elenid John.

Roedd mam Gwyn Roberts, y diweddar Martha Roberts, yn brifathrawes Ysgol Capel Celyn rhwng 1957 a 1963.

Fe dderbyniodd hi’r eitemau yn sgil boddi Cwm Tryweryn yn 1965, a hynny er mwyn creu cronfa i gyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl.

Cofio Capel Celyn

Mae Gwyn Roberts a’i ferched wedi penderfynu trosglwyddo’r eitemau i ofal Amgueddfa Werin Cymru er mwyn i genedlaethau’r dyfodol “dysgu a chofio” am Gapel Celyn.

“Er bod y creiriau hyn yn rhan o hanes ein teulu, ac yn ddolen fyw rhyngom a thrasiedi chwalu Capeli Celyn, roeddem yn ymwybodol eu bod hefyd o bwysigrwydd cenedlaethol,” meddai.

“Pleser yw eu cyflwyno i ofal Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn y gobaith y byddant yn fodd i ymwelwyr y dyfodol ymdeimlo â thristwch colli brwydr y boddi.

“Er hynny, fel yr oedd Mam yn cael boddhad o ddweud dro ar ôl tro wrth blant yr ysgol, ‘Cymru biau’r dŵr rŵan, a ni ddaru ennill yn y diwedd!”

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Tywysogion Cymru – pa rai sy’n werth eu cofio?