Mae trac rasio enwocaf gorllewin Cymru, wedi cael ei werthu i grŵp cyrsiau rasio mwyaf y Deyrnas Unedig.

Roedd yr Arena Racing Company (ARC) eisoes â chytundeb gyda Ffos Las, ond bellach mae’r trac rasio dan berchnogaeth lawn y cwmni.

Bydd Ffos Las, ger Cydweli,  yn ymuno â’r 15 trac rasio arall sydd dan berchnogaeth ARC.

“Balch iawn”

“Dw i’n falch iawn o fy nghysylltiad â Thrac Rasio Ffos Las, a byddaf yn parhau i gefnogi’r safle trwy barhau’n Gadeirydd Anrhydeddus,” meddai’r cyn-berchennog, Dai Walters.

“Mae Ffos Las wedi darparu lle ar gyfer rasio anhygoel, ac wedi annog pobol i ymweld â’r rhan brydferth yma o orllewin Cymru. Mae’r safle wedi darparu gwaith i’r ardal a hybu’r economi.”