Rhaid “herio ystrydebau negyddol” o bobol oedrannus, yn ôl Gweinidog Pobol Hŷn Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad yn Senedd Pobl Hŷn Cymru yng Nghaerdydd, bydd Huw Irranca-Davies yn rhannu ei weledigaeth ar gyfer henoed Cymru.

Bydd yn ymrwymo i fod yn “eiriolwr dros hawliau pobol hŷn”, ac yn rhoi addewid i “ganolbwyntio ar y materion allweddol” wrth gyflwyno rhaglenni newydd.

Yn ogystal, bydd yn tynnu sylw at “ddelweddau negyddol o heneiddio yn y cyfryngau” sydd, meddai,  yn creu “gwrthdaro rhwng y cenedlaethau”.

Daw’r anerchiad yma yn sgil newid teitl Huw Irranca-Davies o ‘Gweinidog Cymdeithasol a Phlant’ i ‘Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol’.