Fe fydd yn rhaid i unrhyw fusnes sy’n ceisio am arian gan Lywodraeth Cymru, gwrdd â meini prawf penodol o hyn ymlaen.

O dan y ‘Contract Economaidd’, mae galw ar gwmnïau i ymrwymo i gasgliad o egwyddorion: twf, gwaith teg, lleihau olion traed carbon, iechyd, a sgiliau yn y gweithle.

Cafodd y ‘Contract’ hwn ei lansio pedwar mis yn ôl, gyda’r nod o annog arferion cyflogaeth a busnes da, a daeth i rym ddydd Llun (Mai 21).

“Perthynas newydd”

“Mae’n gytundeb economaidd newydd yn dechrau perthynas newydd a deinamig rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau, sy’n seiliedig ar egwyddor buddsoddi cyhoeddus ag iddo bwrpas cymdeithasol,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Mae’r contract hwn yn ymwneud ag ymgysylltu, cymhelliant a hyrwyddo arferion da; ymagwedd ‘rhywbeth er lles pawb’ sy’n annog busnesau a’r Llywodraeth i ganfod a phrofi sut y gall cwmni gyfrannu at ffyniant a llesiant ei weithwyr a’r gymuned ehangach.”