Bydd grŵp ymgychu newydd yn cael ei lansio’n swyddogol heno gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru sydd wedi cael ei wahardd.

Nod Neil MvEvoy yw creu “cyfrwng newydd i bwyso am sofraniaeth unigol, gymunedol a chenedlaethol i Gymru”.

Mae’r Aelod Cynulliad wedi bod yn feirniadol o gyfeiriad Plaid Cymru, ac wedi eu cyhuddo o ymddwyn fel “grŵp pwyso” i’r blaid Lafur.

Un o amcanion y grŵp, meddai, yw dylanwadu ar gyfeiriad Plaid Cymru. Dyw’r blaid ddim wedi cefnogi sefydliad y grŵp.

Cafodd Neil McEvoy ei wahardd o’r blaid ym mis Mawrth, ond bydd yn bwrw ymlaen â’i gynlluniau er gwaetha’ hynny.

Y lansiad

Bydd y lansiad yn cael ei gynnal heno (nos Lun, Mai 21) yn Neuadd Fawr Gwesty’r Gyfnewidfa Lo, Caerdydd.

Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, gyda Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a’r ymgyrchydd, Bethan Phillips, ymysg y siaradwyr ar y noson.