Dylai’r arian na chafodd ei wario ar drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd, gael ei fuddsoddi mewn gwelliannau yng Nghymru – nid Lloegr.

Dyna yw’r argymhelliad sy’n cael ei gynnig gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan, yn eu hadroddiad diweddaraf.

Cafodd y cynllun trydaneiddio ei ddiddymu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig tros yr haf y llynedd, ac mae’r pwyllgor yn derbyn na fyddai gwelliannau “o bwys” wedi dod yn ei sgil.

Er hynny, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at “wahaniaeth amlwg” mewn lefelau buddsoddi rhwng Cymru a gweddill gwledydd Prydain, ac yn galw am ragor o fuddsoddi yng Nghymru.

Arian

“Yn ôl amcangyfrifon, mi wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd trwy gefnu ar y cynllun,” meddai  Cadeirydd y Pwyllgor, David Davies.

“Ni allwn adael i’r arian yna ddychwelydd i’r coffrau.

“Ac ni allwn adael i’r arian gael ei gyfrannu at Crossrail 2 neu’r Pwerdy Gogleddol [prosiectau yn Lloegr]. Rhaid gwario’r arian a gafodd ei arbed, yma yng Nghymru.”