Dylai plaid UKIP ddod i ben pe bai’r broses Brexit yn cael ei chwblhau yn y ffordd gywir, yn ôl cyn-arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Nathan Gill.

Fe ddaeth ei sylwadau ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales heddiw.

Ac fe gyfaddefodd nad oedd y blaid wedi cyflawni’r hyn y gallai fod wedi ei gyflawni yng Nghymru, a hynny yn sgil sawl ffrae rhwng aelodau dros y blynyddoedd diwethaf.

Gadawodd Nathan Gill y Cynulliad ar ôl cael ei ddisodli fel arweinydd gan Neil Hamilton. Cafodd yntau ei ddisodli o fod yn arweinydd gan Caroline Jones ddydd Iau.

“Mae’r cyfan yn nwylo’r Torïaid… os ydyn nhw’n methu â chyflawni, gall UKIP godi o’r lludw unwaith eto, ond gallan nhw ein lladd ni drwy gyflwyno Brexit da a chadarn,” meddai.

“Byddai’n well o lawer gen i pe baen ni’n gwneud yr hyn ddywedon ni y bydden ni’n ei wneud, sef cael Brexit a cherdded oddi ar y llwyfan.

“Pe baen ni’n cael y Brexit addawyd i ni erioed, yr hyn y gwnaethon ni frwydro amdano, yna dwi’n methu gweld pam y bydden ni’n bodoli.”

Plaid mewn trafferthion

Mae gan UKIP bum Aelod Cynulliad bellach, ar ôl i Nathan Gill a Mark Reckless adael.

Ac fe ddywedodd Nathan Gill fod cyfle wedi ei golli “am resymau hunanol iawn” i gryfhau’r blaid yng Nghymru.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y blaid nad yw Nathan Gill “yn siarad ar ran” UKIP, gan ychwanegu y bydd “pob Aelod Seneddol Ewropeaidd yn ofer ar 29 Mawrth 2019, ond fydd UKIP ddim”.