Mae Heddlu’r De yn apelio yn dilyn ymgais aflwyddiannus dyn arfog i ladrata o eidda yng Nghaerdydd.

Roedd cymydog wedi ei weld e’n nedio dros wal gardd yn ardal Cyncoed am oddeutu 11 o’r gloch fore Gwener, Mai 11.

Roedd gan y lleidr gyllell â llafn chwe modfedd yn ei feddiant, ond fe wnaeth e ffoi’n waglaw mewn car Audi A3 lliw arian.

Cafodd ffenest ei thorri ond ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.

Mae’r lleidr yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 5’10” i 6’0″, o gorffolaeth denau ac yn ei 30au cynnar. Roedd e’n gwisgo siaced ddu a chap lliw golau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.