Mae elusen Oxfam yn Aberystwyth wedi tynnu arddangosfa frenhinol o ffenest eu siop, ar ôl ennyn ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol.

Nodi priodas Tywysog Harry a Meghan Markle oedd y bwriad, ac ymhlith yr addurniadau roedd baneri Jac yr Undeb a llyfrau am y teulu brenhinol.

Torrodd golwg360 y stori ddydd Iau (Mai 17), gan dynnu sylw at neges Twitter y bardd a’r academydd, Gruffudd Antur.

“Annwyl Oxfam, dw i ddim yn gwybod lle i ddechrau â hyn,” meddai yn y neges. “Ar lefel ymarferol, mae Rheolwr eich siop lyfrau yn Aberystwyth i weld yn benderfynol i golli cwsmeriaid.”

“Mae o jyst yn amhriodol ac yn ddiangen,” meddai’r bardd wrth golwg360, gan ategu bod y penderfyniad wedi “gwneud niwed diangen” i enw Oxfam.