Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio bod angen cadw undod rhwng gwledydd Prydain wedi Brexit.

Roedd Theresa May yn siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Ffos Las, Sir Gaerfyrddin a dywedodd fod aros yn rhan o undeb yn gwneud y Deyrnas Unedig yn fwy diogel, am fod ganddi’r gwariant mwyaf o ran amddiffyn a rôl bwysig yn NATO.

“Fel Unoliaethwyr, dylen ni fyth stopio gwneud yr achos dros pam bod sefyll fel un Deyrnas Unedig, o fudd i ni gyd,” meddai.

“Mae ein Hundeb yn ein gwneud ni’n fwy diogel.”

Bydd Brexit yn golygu “mwy o bwerau” i’r gwledydd datganoledig, yn ôl Theresa May, gan groesawu’r sêl bendith mae’r Cynulliad wedi rhoi i Fil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon.

Cau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a Llundain

Defnyddiodd y Prif Weinidog ei haraith i gyfeirio at y bwlch anferth sydd rhwng economi gorllewin Cymru, un o ardaloedd tlotaf Ewrop, ac economi Llundain.

“Dydy’r bwlch mwyaf mewn GDP rhanbarthol o fewn unrhyw wlad Ewropeaidd ddim  yn ne Ewrop nac mewn gwledydd yr hen Undeb Sofietaidd.

“Mae’r [bwlch] o fewn ein Teyrnas Unedig – yn y bwlch rhwng canol Llundain ac yma yng ngorllewin Cymru.

“Dw i’n benderfynol y dylai ein cenhedlaeth leihau’r bwlch, drwy helpu pob cymuned yn ein gwlad i fwynhau cyfleoedd economaidd drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern.

“A phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn cymryd rheolaeth o’n harian, gallwn gyflwyno cefnogaeth wedi’i thargedu’n lleol yn hytrach na’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd aneffeithiol.

“Felly i leihau anghydraddoldeb rhwng cymunedau ledled pedair cenedl ein Teyrnas Unedig, byddwn yn lansio Cronfa Ffyniant i rannu rhwng y Deyrnas Unedig, wedi’i theilwra i anghenion cymunedau.”

“Record warthus” datganoli ar addysg

Roedd Theresa May yn croesawu rhai polisïau y mae datganoli wedi dod i Gymru, fel codi 5c ar fagiau plastig a’r system newydd o roi organau, ond dywed bod y rhan fwyaf o record y Blaid Lafur wedi bod yn “warthus”, gan gyfeirio’n benodol at addysg.

“Rydym yn gwybod am fethiannau Llafur gyda’r Gwasanaeth Iechyd, ond mae ei record ar addysg yr un mor wael.

“Y sgôr isaf o unrhyw un o genhedloedd y Deyrnas Unedig ar asesiadau rhyngwladol PISA, yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i sgorio’n is na chyfartaledd yr OECD mewn darllen…

“Mae Llafur wedi bradychu cenhedlaeth o blant Cymru.”