Mae gŵyl gerddoriaeth Gymraeg mewn tre’ yng Ngheredigion yn dathlu ei phen-blwydd yn bump oed dros y penwythnos.

Fe gafodd gŵyl Tregaroc ei chynnal gyntaf yn Nhregaron yn 2014, a hynny ar ôl i griw o ferched lleol weld bod angen hwb ar economi’r dre’.

“Roedd lot o fygythiadau; banciau yn cau a bygythiad i’r ysgol. Felly rhyw bum mlynedd yn ôl roedd yna deimlad bod angen denu pobol i mewn i’r ardal a rhoi hwb i’r economi leol,” meddai un o’r criw, sef Ffion Lewis-Hughes, wrth golwg360.

“Fe benderfynon ni wneud hyn, a rhoi llwyfan i artistiaid lleol a chenedlaethol yn ogystal, er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg.”

Gŵyl boblogaidd

 Dros y blynyddoedd mae Tragaroc wedi mynd o nerth i nerth.

Eleni fe fydd yr ŵyl yn croesawu artistiaid megis Eden, Ail Symudiad, Gwilym Bowen Rhys a Neil Rosser i’r dre’, gydag arlwy’r dydd y tu allan i westy’r Talbot yn rhad ac am ddim, a thocyn i babell y Clwb Rygbi yn costio £12.

Ond er i’r 500 o docynnau ar gyfer y babell werthu mewn “mater o ddiwrnod”, yn ôl Ffion Lewis-Hughes, mae’n dweud nad ydyn nhw fel trefnwyr eisiau i’r ŵyl fynd yn “rhy fawr”.

“Rydym ni wedi trial cadw bod yr ŵyl yn aros yr un fath, er mwyn cadw’r naws,” meddai eto. “Mae rhyw naws hyfryd o ran agosatrwydd gyda’r set-up sydd gyda ni’n barod.

“Mae e’n un o’r pethe ni wedi bod yn trafod o hyd, sef ei gadw fe fel y mae, yn hytrach na thrial tyfu yn rhy fawr, neu fe fyddwn ni’n colli’r teimlad ʾna.

“Ond o ran poblogrwydd, mae wedi tyfu ac mae’r ffaith bod y tocynnau wedi’u gwerthu mewn cwpwl o orie neu fater o ddiwrnod, yn profi hynny.”

Mi fydd yr ŵyl yn cychwyn am 1yp yfory (dydd Sadwrn, Mai 19), gyda cherddoriaeth byw yn cael ei chwarae trwy gydol y prynhawn a’r nos.