Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi anrheg i’r Tywysog Harry a Meghan Markle, ar ran pobol Cymru.
Bydd y cwpwl yn priodi ddydd Sadwrn (Mai 19), ac yn anrheg priodas i’r ddau mi fydd Prif Weinidog Cymru yn cyfrannu £1,500 at elusen Gymreig, ‘Life for African Mothers’.
Mae’r elusen hon wedi bod yn cefnogi ysbytai yn Affrica ers 12 mlynedd, a bydd y rhodd yn ariannu taith bydwraig o’r wlad hon i hyfforddi bydwragedd ar y cyfandir.
“Dymuno’n dda”
“Rydw i wedi ysgrifennu at y cwpwl brenhinol i ddymuno’n dda iddynt a’u llongyfarch ar eu priodas,” meddai Carwyn Jones.
“Bydd y cyllid hwn yn helpu i achub bywydau mamau a babanod yn Affrica Is-Sahara.
“Rwy’n siŵr y bydd y cwpwl brenhinol yn cytuno bod hon yn rhodd hyfryd gan bobol Cymru.”