Bydd Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn dechrau’r penwythnos yma, gan ddenu miloedd i’r dref tros ddeng niwrnod.

Wedi’i selio ar ddigwyddiad tebyg yn yr 1980au, cafodd yr ŵyl ei lansio naw blynedd yn ôl gan seiclwyr brwdfrydig lleol.

Erbyn hyn mae’r ŵyl yn para am ddeng niwrnod ac yn cynnwys rasio chwim o amgylch y dref, beicio lawr mynyddoedd a reid fawr dorfol Sportif Gorllewin Cymru.

Llynedd mi wnaeth tua 1,500 o seiclwyr gymryd rhan – rhai proffesiynol yn eu plith – a daeth 12,000 o bobol i wylio’r cystadlu.

Disgwyl mwy

“Fe ddylai fod yn fwy eleni am fod ganddon ni gymaint yn fwy o rasus ar y dydd Sadwrn [Mai 26] o gwmpas y dref,” meddai’r trefnydd, Shelley Childs.

“Mae ganddon ni bencampwyr Cymru, seiclwyr proffesiynol a rasus lleol – 12 awr o rasio eleni, o naw’r bore tan naw’r hwyr.”

Bydd yr ŵyl yn dechrau yfory.