Mae elusen sy’n rhoi cymorth i bobol â phroblemau iechyd meddwl wedi wfftio honiadau bod staff yn cael eu bwlio.

Mae Mind Cymru wedi bod ynghanol ffrae fawr yn ddiweddar ar ôl i gyn-aelodau o staff honni bod yna “ddiwylliant o fwlio” yn bodoli yn eu swyddfeydd.

A’r wythnos ddiwethaf, fe alwodd yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn sgil yr honiadau hyn, a honnodd hefyd fod yr elusen yn euog o gamddefnyddio arian.

Mae Mind, sydd yn gyfrifol am rwydwaith o ganghennau annibynnol yng Nghymru a Lloegr, wedi wfftio’r cyhuddiadau hyn, gan ddweud bod yr honiadau o fwlio yn “ddi-sail”, a bod yna “anghysonderau” yn natganiad Mark Isherwood.

Honiadau Mark Isherwood

 Yr wythnos ddiwethaf (Dydd Mercher, Mai 9) yn y Senedd ym Mae Caerdydd, fe ddywedodd Mark Isherwood fod gan Lywodraeth Cymru “gyfrifoldeb” i weithredu yn sgil yr honiadau o fwlio yn erbyn Mind Cymru – yn enwedig o ystyried bod yr elusen wedi derbyn bron £1.6m ganddyn nhw dros y tair blynedd diwethaf.

Ychwanegodd hefyd fod angen ymchwilio i sut mae Mind yn gyffredinol yn gwario ei harian, ar ôl iddo gael ar ddeall mai dim ond £1.2m sy’n cael ei wario ar ganghennau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Roedd hyn, meddai, er gwaetha’r ffaith bod yr elusen wedi derbyn cyfanswm o  £41.3m fis Mawrth y llynedd.

“Pa gamau, o ystyried eich bod yn gyfrifol am y diwydiant gwirfoddoli yng Nghymru, yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod arian sy’n cael ei godi yng Nghymru er mwyn cefnogi elusennau lleol, yn aros yng Nghymru er mwyn cael ei wario gan yr elusennau lleol hynny,” meddai Mark Isherwood.

Yn ymateb ar y pryd, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, mai mater i Mind Cymru oedd hyn, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

Ymateb Mind

“Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif, ac nid ydym yn derbyn bwlio,” meddai llefarydd ar ran Mind.

“Mae ymgynghoriad llawn a chydnerth wedi’i gynnal gan ein hymddiriedolwyr, sydd wedi canfod bod yr honiadau ynglŷn â diwylliant o fwlio yn Mind yn ddi-sail.

“Mae yna anghysonderau yn natganiad Mark Isherwood ynglŷn â’i gwestiynau i’r Gweinidog [yr wythnos ddiwethaf]. Rydym bellach wedi cysylltu ag ef, ac mae wedi cytuno i gyfarfod â ni er mwyn trafod ei bryderon ymhellach.

“Rydym yn dryloyw ynglŷn â’r ffordd mae ein harian yn cael ei godi a’i wario, sy’n cael ei gyhoeddi bob blwyddyn yn ein hadroddiadau ariannol blynyddol.”