Mae angen i bleidiau gwleidyddol “weithio â’i gilydd, nid yn erbyn ei gilydd”, mae disgwyl i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddweud yn ei araith yng nghynhadledd wanwyn y blaid yn Llanelli heddiw (dydd Gwener, Mai 18).

Un o brif bwyntiau Andrew RT Davies  fydd yr angen am “agenda o newid” yng Nghymru, ac mai’r prif rwystr yn erbyn hynny yw’r Blaid Lafur, sydd wedi bod mewn grym yn y wlad ers bron i ugain mlynedd.

Mi fydd hefyd yn dweud bod angen i wleidyddion roi eu “budd cenedlaethol” o flaen eu pleidiau eu hunain, ac mewn cyfeiriad anuniongyrchol at Blaid Cymru, fe fydd yn galw ar y rheiny sy’n wrthwynebus i gydweithio â’r ‘Torïaid’, i ymuno â nhw.

“Agenda o newid”

 “Tra ein bod ni’n ymwybodol o’r her, dim ond dau beth sy’n ein rhwystro rhag datgloi cynnydd a ffyniant yng Nghymru.

“Un ohonyn nhw yw disodli’r Blaid Lafur ei hun, a’r llall yw’r rheiny sy’n cydnabod mai Llafur yw’r broblem – ond sy’n methu cydweithio â’r “Torïaid” i wneud unrhyw beth amdano,” mae disgwyl i Andrew RT Davies ddweud.

“Er mwyn i ni ddarparu agenda o newid, mae angen inni roi ein budd cenedlaethol o flaen ein pleidiau.

“Mae angen i’r gorau a’r mwyaf disglair yng Nghymru weithio â’i gilydd, nid yn erbyn ei gilydd.”