Cywiriad: Camgymeriad oedd y llun gwreiddiol a gyhoeddwyd gyda’r stori yma – llun o gae lleidiog. Llun cyffredinol oedd o, heb fod â dim i’w wneud ag Eisteddfod Caerdydd 2008. Dylem fod wedi nodi hynny ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw gamargraff a grewyd. Mae’r Eisteddfod hefyd yn pwysleisio nad oedd problemau difrod yn sgil maes carafanau 2008.  [golwg360]

 

“Bydd mynediad y cyhoedd i gaeau Pontcanna yn cael ei gynnal drwy gydol yr haf,”  yn ôl Cyngor Caerdydd a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Daw’r sylw ar y cyd gan y cyrff yn sgil pryderon y gallai’r caeau – safle maes gwersylla Eisteddfod eleni – gael eu cau am gyfnod estynedig wedi i’r brifwyl ddod i ben, yn enwedig os bydd tywydd gwlyb yn golygu y bydd llanast a mwd dan draed.

Mewn cyfweliad â golwg360 mae Cymdeithas Ddinesig Caerdydd wedi rhybuddio y gallai carafanau a cheir “ddifetha’r caeau”, gan olygu nad oes modd i’r cyhoedd eu defnyddio.

Ac mae’r grŵp wedi tynnu sylw at Eisteddfod Caerdydd 2008, gan honni nad oedd modd defnyddio’r caeau am “ddwy flynedd” yn ei sgil.

Yr ymateb

Mae Cyngor Caerdydd a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymateb trwy fynnu bod y tir yn mynd i gael ei “warchod”, a bod y safle’n mynd i gael ei reoli “trwy gydol yr ŵyl”.

Yn ogystal, mae’r cyrff yn mynnu eu bod yn “gwerthfawrogi pwysigrwydd parciau a lleiniau gwyrddion i drigolion Caerdydd.”

Ac o ran y cyfeiriadau at Eisteddfod 2008, mae’r cyrff yn mynnu nad oes modd cymharu, oherwydd roedd y maes yn y caeau bryd hynny hefyd – bydd y maes yn y Bae eleni.

Eisteddfod 2008

“Rydym wedi cwrdd â phreswylwyr yn yr ardal i egluro na ellir cymharu cynlluniau eleni â 2008 pan oedd maes yr Eisteddfod ei hun ar Gaeau Pontcanna a oedd yn golygu tipyn mwy o seilwaith a mwy o dramwyo dros y tir,” meddai llefarydd ar ran y cyrff.

“Roedd yr oedi ynghlwm wrth ddychwelyd y caeau i allu chwarae arnynt yn ymwneud ag ailgodi’r llwyfan criced. Roedd hyn yn waddol bwriadol a addawyd yn sgil croesawu’r Eisteddfod yn 2008 ac mae’r wicedi ar hyn o bryd yn chwarae i safon sirol.”