Dylai’r ail Bont Hafren gail ei henwi ar ôl sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac nid y Tywysog Siarl, yn ôl bywgraffydd brenhinol.

Mae Brian Hoey yn adnabyddus am ysgrifennu degau o lyfrau am aelodau o’r teulu brenhinol – o Mountbatten i Zara Phillips, y Frenhines Elisabeth a’r Tywysog Siarl – yn ogystal â llyfrau ffeithiol eraill am longau, trenau a holl ffordd o fyw y Windsors.

Ond tra’n cyfrannu i raglen drafod Wales Live ar BBC 1 neithiwr, (nos Fercher Mai 16), dywedodd y brenhinwr ei fod yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ail enwi’r bont yn ‘Bont Tywysog Cymru’.

“Heb ofyn”

“Aeth Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar Wales Today a dywedodd bod y mwyafrif o bobol yng Nghymru eisiau enwi’r bont ar ôl  Tywysog Cymru,” meddai Brian Hoey, wrth gymryd rhan mewn trafodaeth banel dan lywyddiaeth y cyflwynwyr, Jason Mohammad a Bethan Rhys Roberts.

“A ofynnodd e iddyn nhw? Ofynnodd e ddim i fi. A ofynnodd e i chi [ar y panel]? Wnaeth e ddim gofyn fy marn i! Dw i ddim yn meddwl y dylai’r bont gael ei enwi ar ôl y tywysog.

“Mae gen i safbwynt fy hun ar y mater. Ac mi ddyweda’ i wrthoch chi. Dylai gael ei henwi ar ôl Aneurin Bevan.”

Protestio

Daw sylw Brian Hoey wedi i westai arall ar y rhaglen, Jamie Matthews, gyhuddo Alun Cairns o “orfodi” y penderfyniad ar Gymru. Dyna pam, meddai Jamie Matthews, yr aeth ati i sefydlu’r ddeiseb yn gwrthwynebu’r ailenwi.

Mae penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol wedi corddi cryn dipyn, ac mae protestiadau eisoes wedi’u cynnal. Mae un arall wedi’i threfnu ar gyfer dydd Llun, Mai 28.