Mae cyffuriau gwrth-seicotig yn cael eu rhoi i bobol gyda dementia mewn cartrefi gofal yn rhy aml – ac fel yr opsiwn cyntaf mewn rhai achosion.

Yn ôl Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad, mae henoed sy’n byw â’r cyflwr yn cael presgripsiwn o feddyginiaeth wrth-seicotig yn aml fel yr opsiwn cyntaf.

Mae’r cyffuriau hefyd yn cael eu rhoi i bobol â dementia mewn cartrefi gofal er mwyn “rheoli ymddygiad heriol”, yn ôl tystiolaeth a ddaeth i law’r pwyllgor.

Mae adroddiad yr Aelodau Cynulliad bellach yn galw am “newidiadau systematig” yn y ffordd mae presgripsiwn meddyginiaethau gwrth-seicotig yn cael ei ddarparu mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Dywed yr adroddiad bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y byrddau iechyd yn cadw cofnod safonol ar nifer y presgripsiynau gwrth-seicotig sy’n cael eu rhoi.

Mae pryder nad yw’r byrddau iechyd yn cydymffurfio gyda chanllawiau NICE, gan fod y sefydliad yn cynghori yn erbyn defnyddio unrhyw gyffuriau gwrth-seicotig ar gyfer ymddygiad heriol dementia oni bai bod yr unigolyn mewn gofid difrifol neu mewn perygl o achosi niwed i rywun.

Galw am asesiad i bob unigolyn

Roedd tystiolaeth y pwyllgor hefyd yn dangos bod dioddefwyr dementia, sy’n aml â chyflyrau cronig eraill, yn cael eu rhoi ar bresgriptiwn amlroddadwy [repeat prescription] am gyfnodau sy’n rhy hir, heb ddigon o fonitro.

Yn hytrach, mae’r pwyllgor wedi galw am i bob unigolyn sydd â dementia sy’n dangos ymddygiad heriol gael asesiad gofal sy’n canolbwyntio ar y person a’i anghenion.

Cododd Cadeirydd y Pwyllgor, Dr Dai Lloyd AC, hyn gan ddweud bod person sydd â dementia yn aml yn methu mynegi ei hun yn iawn.

“… O’r herwydd, credwn ei bod yn hollbwysig edrych ar y person cyfan er mwyn deall beth allai fod yn achosi ymddygiad penodol,” meddai.

“Gwyddom fod amryw restrau gwirio arfer da y gallai staff mewn cartrefi gofal eu defnyddio i nodi’r achosion posib y tu ôl i ymddygiad unigolyn.

“Fodd bynnag, clywsom fod meddyginiaethau gwrth-seicotig yn cael eu defnyddio fel yr ateb diofyn mewn cartrefi gofal ac ar rai wardiau ysbyty, pan fo’n anodd o ran ymdrin â phobol sydd â dementia.

“Mae rhoi meddyginiaeth ddiangen i bobl mewn gofal sy’n agored i niwed yn fater difrifol o ran hawliau dynol y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

“Credwn fod angen newidiadau diwylliannol a systemig i sicrhau bod meddyginiaethau gwrth-seicotig yn cael eu rhagnodi yn briodol, ac fel yr opsiwn olaf un, nid yr opsiwn cyntaf diofyn.”