Ar drothwy ei chynhadledd yfory (dydd Gwener, Mai 18), mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio dogfen yn cyflwyno cyfres o gynigion ar gyfer “gwella” bywydau pobol sy’n byw mewn ardaloedd trefol yng Nghymru.

Mae Papur Gwyn y Ceidwadwyr – Dinasoedd Byw – Strategaeth Adnewyddu Trefol Cymru – yn cyflwyno syniadau i geisio ennill pleidleisiau’r ddau draean o’r boblogaeth sy’n byw mewn trefi a dinasoedd.

Mae’r 25 o gynigion yn y ddogfen yn cynnwys polisïau i geisio taclo llygredd aer, problemau cynllunio a thrafnidiaeth mewn ardaloedd trefol.

Dyma rhai o brif syniadau’r Ceidwadwyr Cymreig:

  • Gwneud Caerdydd yn Brifddinas Garbon Niwtral gyntaf gwledydd Prydain;
  • Sicrhau bod pob adeilad sy’n perthyn i’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn garbon niwtral erbyn 2026;
  • Treialu gwahardd deunyddiau plastig untro yn ninasoedd Cymru;
  • Sicrhau bod gan bob datblygiad masnachol dros 1,000 metr sgwâr doeau gwyrdd sydd o leia’n 50%o gyfanswm y to;
  • Cyflwyno parthau aer glân yng Nghasnewydd, Abertawe, Caerdydd a Wrecsam;
  • Sicrhau bod mwy o strydoedd prysuraf Cymru fod yn barthau i gerddwyr yn unig.

“Gyda mwy na dau draean o boblogaeth Cymru yn byw yn ardaloedd trefol y wlad, mae angen brys am strategaeth i sicrhau bod ein trefi a’n dinasoedd yn fannau byw iachach a hapusach,” meddai David Melding, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr amgylchedd.

“Mae gennym ni gyfres o gynigion uchelgeisiol a blaengar i adfywio ardaloedd dinesig er mwyn osgoi’r peryglon o or-boblogi sydd wedi difetha rhannau eraill o’r byd.

“Gall bargeinion dinesig rhanbarthol yng Nghaerdydd ac Abertawe fod yn gatalydd i ddenu pobol ifanc medrus o bob cwr o’r wlad… ond fydd hynny dim ond yn amlygu’r angen i greu ‘dinasoedd byw’ sy’n dda i’r economi.”