Mae gwleidydd o Gymro sy’n aelod o senedd Guernsey, yn gwrthwynebu’r cynnig i roi’r hawl i bobol â salwch terfynol gael cymorth i farw.

Fe fydd Elis Bebb yn pleidleisio’n erbyn y cynnig a fydd yn cael ei drafod heddiw (dydd Mercher, Mai 16).

Pe bai’r cynnig yn cael ei dderbyn, fe fyddai’r ynys yn dechrau ar gyfnod ymgynghori a fyddai’n para 18 mis, a Guernsey fyddai’r unig ranbarth o wledydd Prydain i bleidleisio o blaid cymorth i farw.

Mae’r weithred wedi’i gwahardd yng ngwledydd Prydain, ond mae gan Guernsey yr hawl i ddeddfu drosti ei hun.

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r ddadl ar yr ynys, ac mae Elis Bebb yn gwrthwynebu ar y sail “nad oes digon o ddeddfwriaeth gadarn yn ei lle i’w hwyluso”.

Mae wedi amddiffyn ei safbwynt ar wefan gymdeithasol Twitter:

‘Anochel’

Ym mis Ebrill, dywedodd Gavin St Pier, y gwleidydd a gyflwynodd y cynnig gerbron senedd Guernsey, fod rhoi’r hawl i bobol sy’n dioddef o salwch terfynol ddewis marw yn “anochel”.

Wrth groesawu ei gynnig, dywedodd Prif Weithredwr elusen, Dignity in Dying, Sarah Wootton: “Dylem gymeradwyo pobol Guernsey am ddechrau’r drafodaeth hon, a rhaid i ni obeithio y bydd eu hesiampl bositif a blaengar yn cael ei dilyn mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.”