Dyw ardaloedd menter Cymru ddim wedi “ennill eu plwyf” hyd yma, er gwaethaf buddsoddiad o £200m ynddyn nhw, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mewn adroddiad sydd wedi’i ryddhau heddiw, mae’r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau hefyd yn nodi bod yna “ddarlun cymysg” ynglŷn â llwyddiant yr ardaloedd unigol.

Mae yna wyth o’r ardaloedd yma yng Nghymru – yn cynnwys ardaloedd menter Ynys Môn ac Eryri –  a’u nod yw meithrin twf economïau lleol.

“Mae’r Pwyllgor wedi dod i’r casgliad nad yw’r cysyniad ardal fenter, ar y cyfan, wedi ennill ei blwyf hyd yma yng Nghymru,” meddai Russell George, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

“… Yn sgil y diffyg tystiolaeth sydd ar gael, mae’n anodd inni ddadansoddi’n llawn eu cyfraniad at economi Cymru.”

Y gogledd

Mae’r adroddiad yn cynnig sawl argymhelliad, ac yn annog Llywodraeth Cymru i beidio ag uno ardaloedd menter Ynys Môn ac Eryri.

Gallai uno’r byrddau “bylu gweledigaethau” y ddwy ardal,  a dylai penderfyniad ar y mater gael ei ohirio nes fod rhagor o eglurder tros Wylfa Newydd, meddai’r pwyllgor.

Hyd yma mae ardal fenter Ynys Môn wedi creu 502 swydd – £6,184 oedd y gost i greu pob un – a dydu ardal fenter Eryri ddim ond wedi creu chwe swydd – ar gost o £108,333 yr un.