Mae’r cwmni Trenau Arriva Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cychwyn ar gynllun o foderneiddio eu trenau.

Fe fydd buddsoddiad newydd y cwmni yn sicrhau bod gan drenau’r dyfodol ddigonedd o le i gadeiriau olwyn, drysau a thoiledau mwy effeithiol, ynghyd â thanciau carthion newydd.

Yn ôl y cwmni, y trenau Dosbarth 158, sy’n defnyddio’r Llinell Cambria o Amwythig i Aberystwyth a Phwllheli, fydd y cyntaf yng Nghymru lle bydd carthion yn cael ei storio mewn tanciau, yn hytrach na’i gollwng ar y traciau.

Maen nhw hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynnig buddsoddiad gwerth bron £200,000 iddyn nhw er mwyn gosod offer ar gyfer gwacáu’r tanciau yng ngorsaf drenau Machynlleth.

‘Cynllun cynhwysfawr’

Yn ôl Tom Joyner, Prif Weithredwr Trenau Arriva Cymru, maen nhw’n “frwdfrydig” dros sicrhau bod teithio ar y rheilffordd yn agored i bawb.

“Rydym wedi gweithio’n galed er mwyn cyflwyno cynllun cynhwysfawr ar gyfer y trenau hyn, ac fe all cwsmeriaid edrych ymlaen at fwynhau’r manteision yn fuan,” meddai.

“Mi fydd y buddsoddiad hwn yn mynd yn bell i gyflawni’r amcanion hynny, ac mae’n dangos ymrwymiad i roi’r diwydiant rheilffyrdd yn y sefyllfa gorau posib ar ddiwedd rhyddfraint Arriva Trains Wales.”