Mae ymgyrchwyr annibyniaeth wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru rhag “bargeinio rhyddid Cymru i ffwrdd”.

Ddydd Mawrth (Mai 15) mae disgwyl i Aelodau Cynulliad bleidleisio tros roi sêl bendith i Fesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae hyn wedi codi pryderon ymhlith rhai, sy’n credu mai ymgais i dynnu pwerau datganoledig yn ôl i San Steffan yw’r mesur.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell pleidleisio i gytuno i’r Bil, er bod Llafur yr Alban, Llywodraeth yr Alban ac Arweinydd Prydeinig Llafur, Jeremy Corbyn, yn ei wrthwynebu.

Yn ôl mudiad YesCymru, does gan Lywodraeth Cymru “ddim mandad i ddadwneud pleidleisiau’r bobol” ac mae’r mudiad wedi cynghori Aelodau Cynulliad rhag cefnogi’r mesur.

“Negodi ein rhyddid”

“Dyw pobl Cymru ddim wedi pleidleisio dros ddychwelyd unrhyw bwerau o Gymru i San Steffan,” meddai Cadeirydd YesCymru, Iestyn ap Rhobert.

“… All unrhyw Lywodraeth yng Nghymru, a etholwyd gan ddim ond ychydig yn fwy na thraean o’r boblogaeth, ddim negodi ein rhyddid i ffwrdd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.